Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 3 Y Senedd a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 7 Tachwedd 2023
Amser:
09.11 -
10.52
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13797
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
David Rees AS (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AS Llyr Gruffydd AS Peredur Owen Griffiths AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
Shaun McNally, Comisiwn Etholiadol Dame Elan Closs Stephens CBE, Comisiwn Etholiadol Rhydian Thomas, Comisiwn Etholiadol David Moran, Cyfarwyddwr, Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, Comisiwn Etholiadol |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Clerc) Bethan Garwood (Dirprwy Glerc) Christian Tipples (Ymchwilydd) Matthew Richards (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant.
2 Craffu ar amcangyfrifon ariannol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2024/25
2.1 Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr o’r Comisiwn Etholiadol i'r cyfarfod a diolchodd iddynt am gyflwyno eu hamcangyfrif ariannol ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25 ac amcangyfrif atodol 2023-24.
2.2 Holodd y Pwyllgor gynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol ar eu hamcangyfrif ariannol ar gyfer 2024-25.
2.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar yr amcangyfrif fel rhan o'r ymgynghoriad sy’n ofynnol o dan baragraff 16A(8)(b) o Atodlen 1 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.
2.4 Nododd y Pwyllgor adroddiad y Comisiwn Etholiadol ar yr etholiadau lleol a gynhaliwyd ym mis Mai 2023 a’i adroddiad ar gywirdeb a chyflawnrwydd cofrestrau etholwyr.
2.5 Nododd y Pwyllgor y ddau lythyr a gafwyd gan y Comisiwn Etholiadol ynghylch yr ymosodiad seiber a'r Prif Weithredwr.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
3.1 Derbyniwyd y cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
4 Craffu ar amcangyfrifon ariannol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2024/25 Trafod y dystiolaeth
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.